Cymraeg / Welsh
Ni yw un o’r cwmnïau cyfreithwyr hynaf yng Nghymru ac rydym wedi ymroi ers blynyddoedd lawer i ddarparu ein gwasanaethau yn Gymraeg.
Mae gennym gyfreithwyr Cymraeg eu hiaith ledled y cwmni sy’n cynghori llawer o gleientiaid yn Gymraeg, gan gynnwys: Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol, S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru a Hybu Cig Cymru, ynghyd â sawl awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ein holl siaradwyr Cymraeg yn arddangos y symbol ‘Iaith Gwaith’ nesaf at eu henwau ar ein gwefan.
Rydym yn hapus i addasu ein gwasanaethau Cymraeg i chi – os mai am sgwrsio yn Gymraeg ydych chi, am gael gohebiaeth yn Gymraeg, neu am wneud popeth drwy gyfrwng y Gymraeg o’r dechrau i’r diwedd, gallwn eich cefnogi bob cam o’r ffordd. Rydym yn gyfranogwyr brwd yng nghynllun Comisiynydd y Gymraeg i annog a gwella’r defnydd o Gymraeg yn y gweithle.
Mae llawer o’n cleientiaid yn cael eu llywodraethu gan Safonau’r Gymraeg, felly rydym yn deall sut i sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio â’r rhain.
Mae gennym dîm o Hyrwyddwyr y Gymraeg sy’n hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru drwy’r cwmni. Mae mentrau diweddar wedi cynnwys darpariaeth Gwersi Cymraeg i bawb nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg.