Cyfraith Cymru
Mae’r gyfraith yng Nghymru yn esblygu drwy’r amser ac mae yna wahaniaeth cynyddol rhwng y gyfraith yng Nghymru a’r gyfraith yn Lloegr.
Rydym yn arbenigwyr ar setliad datganoli Cymru ac rydym wedi ymrwymo i helpu ein cleientiaid i lywio’r dirwedd gyfreithiol wahanol hon. Mae hwn yn faes pwysig i’r rhai sy’n ystyried cynnal eu busnes yng Nghymru.
Wedi i’r model cadw pwerau gael ei roi ar waith, gall Cymru bellach gymeradwyo deddfwrieath ar fwy o feysydd nag erioed o’r blaen ac erbyn hyn mae gan Gymru gorff sylweddol o gyfreithiau unigryw. Mae’r maes hwn yn ehangu ac mae enghreifftiau o lle mae’r gyfraith yng Nghymru yn wahanol i’r gyfraith yn Lloegr yn cynnwys:
- Cyfraith gynllunio: Fe wnaeth Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 ddiwygio deddfwriaeth gynllunio’n sylweddol o ran y modd y mae’n berthnasol i ddatblygiadau yng Nghymru a chyflwyno’r cysyniad o Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol. Mae yna hawliau datblygu a dosbarthiadau defnydd a ganiateir gwahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr ac mae trefn ddeddfwriaethol gwbl ar wahân yn bodoli yn ymwneud â gosod systemau draenio cynaliadwy (SDCau) ar ddatblygiadaeu newydd yng Nghymru.
- Rheoliadau Adeiladu: rydym yn dechrau gweld newidiadau i’r Rheoliadau Adeiladu gan gynnwys gofyniad i osod systemau awtomatig ar gyfer atal tân ar ddatblygiadau penodol yng Nghymru, ac mae diwygiadau sylweddol i ddiogelwch adeiladu yng Nghymru yn debygol o ddilyn.
- Yr Amgylchedd: Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru a gwella bioamrywiaeth.
- Tai: Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn darparu system newydd o reoleiddio ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod eiddo yn y sector rhentu preifat, a than y system honno, mae’n rhaid i bob landlord yn y sector preifat gofrestru, cael hyfforddiant sy’n eu gwneud yn ‘addas a phriodol’ a chael trwydded “Rhentu Doeth Cymru”. Er nad yw ar waith eto, nod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw cydgrynhoi a moderneiddio’r gyfres gymhleth o ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodooli ar gyfer y sector rhentu preifat lle bydd yr holl denantiaethau a thrwyddedau preswyl preifat sy’n bodoli ar hyn o bryd yn cael eu cyfnewid am gontract meddiannaeth diogel neu safonol.
- Tai Cymdeithasol: Mae gan Gymru ei reoleiddiwr tai cymdeithasol a’i reolau a’i weithdrefnau rheoleiddio ei hun. Mae safonau ansawdd ac ystyriaethau polisi’n wahanol iawn hefyd. Mae gan Gymru ddetholiad penodol o gynlluniau perchnogaeth cartrefi fforddiadwy fel HomeBuy Wales a Rent First Wales.
- Addysg: Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysgol (Cymru) 2018 yn dod i rym o fis Medi 2021 a bydd newidiadau a diwygiadau sylweddol i’r system gyfredol ar gyfer myfyrwyr sydd ag anghenion addysgol arbennig (dan y ddeddf newydd, a elwir yn ‘anghenion dysgu ychwanegol’) yng Nghymru.
- Ennill contractau cyhoeddus yng Nghymru: bydd y rhwymedigaethau ar y contractiwr yn cael eu dylanwadu gan Lywodraeth Cymru a pholisïau eraill yng Nghymru, er enghraifft efallai bydd rhwymedigaeth ynghylch darparu gwasanaethau yn y Gymraeg. Rhagwelir hefyd y bydd y rheolau ynghylch tendro’n gystadleuol am gontractau cyhoeddus yn wahanol yn y dyfodol.
- Herio penderfyniadau cyrff cyhoeddus: mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru amrywiaeth o ddyletswyddau statudol fel y rhai dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Cydraddodleb 2010 sy’n treiddio drwy brosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru ac yn dylanwadu arnynt. Os na fydd corff cyhoedus yn rhoi ystyriaeth deilwng i’r dyletswyddau statudol hyn, yna gall hyn ffurfio sail i her gyfreithiol.
- Pandemig Covid-19: mae cyfres o ddeddfwrieth sy’n benodol i Gymru wedi’i llunio mewn ymateb i’r pandemig, gan gynnwys atal dros dro y broses o droi pobl allan yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat.
Mae gennym siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n gallu darparu cyngor yn ddwyieithog a gweithredu yn y Gymraeg.