Beth yw Datganiad Polisi Caffael Cenedlaethol y DU?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi datganiad polisi caffael cenedlaethol, sy’n nodi blaenoriaethau strategol ar gyfer caffael cyhoeddus. Mae adran 13 o Ddeddf Caffael 2023 yn rhoi pŵer i Weinidog y Goron gyhoeddi datganiad o’r fath ar ôl cynnal ymgynghoriad a gosod y datganiad gerbron Senedd San Steffan. Mae’n ofynnol i awdurdodau contractio ystyried y datganiad polisi cenedlaethol.

Fodd bynnag, mae rhai awdurdodau contractio wedi’u heithrio o’r rhwymedigaeth hon, gan gynnwys awdurdodau datganoledig Cymru, y mae’n ofynnol iddynt ystyried datganiad polisi caffael Cymru a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Bydd y datganiad, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, yn dod i rym ar 28 Hydref 2024 ac yna bydd ar waith hyd nes y caiff ei dynnu’n ôl, ei ddiwygio neu ei ddisodli.

Mae’r datganiad polisi caffael cenedlaethol yn sefydlu’r blaenoriaethau cenedlaethol canlynol, y mae’n rhaid i awdurdodau contractio sydd o fewn cwmpas y datganiad eu hystyried wrth arfer eu swyddogaethau caffael:

Gwerth am Arian

Mae’n ofynnol i awdurdodau contractio wneud y gorau o’u defnydd o arian cyhoeddus trwy gydbwyso effeithiolrwydd, effeithlonrwydd ac economi dros gylch oes cynnyrch, gwasanaeth, neu waith i gyflawni canlyniadau arfaethedig y caffaeliad. Mae hyn yn cynnwys manteision ac effeithiau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach. Mae’r datganiad yn dweud y dylai timau masnachol sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o’r polisi neu’r rhaglen sy’n rhan o’r broses gaffael ac y dylid cynllunio a rheoli caffael i wella cyflawniad y canlyniadau polisi cysylltiedig.

Gwerth Cymdeithasol

Yn eu caffaeliadau, dylai awdurdodau contractio roi sylw i ganlyniadau:

  • Creu busnesau cadarn a chyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a datblygu sgiliau o safon.
  • Gwella arloesedd, cadernid y gadwyn gyflenwi a diogelwch cyflenwad.
  • Mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau gwastraff.

Hefyd, dylai awdurdodau contractio ystyried unrhyw flaenoriaethau lleol ychwanegol lle maen nhw’n berthnasol i’r contract ac yn gymesur.

Mae’r datganiad yn dweud na ddylai awdurdodau contractio orlethu’r cyflenwyr i gyflawni’r canlyniadau hyn, fel gosod gofynion beichus neu ddefnyddio cymalau anghymesur.

Mentrau Bach a Chanolig

Mae’r datganiad yn dweud y dylai awdurdodau contractio sicrhau eu bod yn sicrhau chwarae teg i bawb gyda’u gweithgarwch caffael. Caniatáu i fentrau bach a chanolig (BBaChau), mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol a busnesau newydd gystadlu ym maes caffael cyhoeddus drwy leihau a dileu rhwystrau yn y broses gaffael.

Darpariaeth fasnachol a chaffael

Mae’r datganiad yn dweud y dylai awdurdodau contractio ystyried a oes ganddyn nhw’r polisïau a’r prosesau gweithredol cywir ar waith i reoli camau allweddol cyflenwi masnachol. Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y gellid cymhwyso egwyddorion, arferion a chanllawiau o’r gyfres ‘Government’s Playbook’ i’w sefydliad.

Sgiliau a gallu i gaffael

Mae’r datganiad yn dweud y dylai awdurdodau contractio ystyried eu gallu sefydliadol a’u cynlluniau gweithlu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ganddyn nhw’r sgiliau caffael a rheoli contractau a’r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau gwerth am arian. Hefyd, dylent fod yn ffyddiog bod ganddyn nhw weithlu a gallu digonol i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario’n effeithiol ac yn effeithlon. Mae’r datganiad yn cyfeirio at safonau proffesiynol y gall awdurdodau contractio eu defnyddio i feincnodi eu hunain, gan gynnwys y Fframwaith Asesu Gwella Parhaus Masnachol a gynhyrchir gan Swyddogaeth Fasnachol y Llywodraeth gyda GIG Lloegr a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol. Dylai awdurdodau contractio sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r blaenoriaethau a nodir yn y datganiad polisi caffael cenedlaethol a’u bod yn gwneud darpariaethau i sicrhau bod eu strategaethau a’u prosesau caffael yn eu hystyried.

Os ydych chi angen unrhyw gymorth i wneud darpariaethau i strategaethau neu brosesau neu unrhyw faterion eraill a drafodir yn yr erthygl hon, cysylltwch â Clare Hardy

Like to talk about this Insight?

Get Insights in your inbox

Subscribe
To Top