Deallusrwydd Artiffisial yn Sector Cyhoeddus y DU: Achosion Defnydd a Rheoleiddio
Nid yw Deallusrwydd Artiffisial bellach yn uchelgais technolegol hirbell; mae’n prysur ddod yn offeryn craidd yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. O gynorthwyo cynghorau i ddyrannu adnoddau yn fwy effeithiol i alluogi penderfyniadau i gael eu gwneud yn gynt mewn llywodraeth ganolog, mae deallusrwydd artiffisial yn trawsffurfio’r ffordd y mae’r sector cyhoeddus yn gweithredu. Ond gyda photensial mawr daw cyfrifoldeb mawr—yn enwedig wrth sicrhau bod y technolegau hyn yn cael eu defnyddio mewn modd moesegol, cyfreithlon a thryloyw.
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r achosion defnydd mwyaf perthnasol a dylanwadol ar gyfer deallusrwydd artiffisial yn sector cyhoeddus y DU ac mae’n darparu trosolwg clir mewn iaith syml o sut y mae deallusrwydd artiffisial wedi’i reoleiddio ar hyn o bryd—gyda ffocws ar yr hyn y mae angen i weithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus ei wybod.
Achosion yn y byd go iawn o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus
Mae’r sector cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw i gael budd o ddeallusrwydd artiffisial, o gofio ei gyfoeth o ddata, ei amrywiaeth eang o wasanaethau, a’r ymdrech gyson i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a chost. Dyma rai o’r defnyddiau mwyaf cyffredin sy’n datblygu o ddeallusrwydd artiffisial o fewn llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus y DU.
- Gofal iechyd a’r GIG
Defnyddir deallusrwydd artiffisial eisoes mewn rhannau o’r GIG i gefnogi offer diagnostig, fel dadansoddi delweddau meddygol, rhagweld dirywiad cleifion, a thynnu sylw at achosion risg uchel. Mae sgwrsfotiaid a chynorthwywyr rhithwir deallusrwydd artiffisial hefyd yn cynorthwyo cleifion i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau brysbennu mewn ffordd fwy effeithlon.
- Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelu
Mae nifer o awdurdodau lleol yn defnyddio deallusrwydd artiffisial a modelau dysgu peiriannau i nodi plant neu deuluoedd sy’n agored i niwed ac y gallai fod angen ymyriad cynnar arnynt. Mae’r systemau hyn yn dadansoddi llawer iawn o ddata achosion i gynorthwyo gweithwyr cymdeithasol i wneud penderfyniadau gwybodus. Fodd bynnag, mae pryderon moesegol ynghlwm wrth y defnydd hwn, yn enwedig mewn perthynas â thryloywder a thuedd, y byddwn yn dychwelyd atynt maes o law.
- Addysg
Mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei dreialu i bersonoli profiadau dysgu, awtomeiddio tasgau gweinyddol, a hyd yn oed rhagweld deilliannau myfyrwyr. Mae rhai prifysgolion hefyd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod llên-ladrad neu dwyllo mewn gwaith cwrs a gyflwynir.
- Plismona a Chyfiawnder Troseddol
Mae asiantaethau gorfodi’r gyfraith yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo gydag adnabod wynebau, plismona rhagfynegol, a gwaith fforensig digidol. Er enghraifft, dadansoddi deunydd fideo teledu cylch cyfyng a didoli tystiolaeth ddigidol. Mae’r defnyddiau hyn yn arbennig o sensitif ac yn denu llawer o graffu ynghylch preifatrwydd a rhyddid sifil.
- Llywodraeth Leol a Gwaith Gweinyddol
Mae cynghorau’n defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella amserlenni casglu gwastraff, dadansoddi adborth gan breswylwyr, a symleiddio gwasanaethau cwsmeriaid. Gall sgwrsfotiau, er enghraifft, ateb cwestiynau cyffredin, sy’n rhyddhau’r amser i staff ymdrin ag ymholiadau mwy cymhleth.
- Llywodraeth Ganolog a Llunio Polisi
Ar lefel polisi, mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei archwilio i fodelu canlyniadau senarios polisi gwahanol a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Mae CThEF, er enghraifft, yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i ganfod twyll ac anomaleddau mewn ffeiliau treth.
Sut mae deallusrwydd artiffisial wedi’i reoleiddio yn y DU?
Mae rheoleiddio deallusrwydd artiffisial yn y DU yn parhau i ddatblygu. Nid oes “Deddf Deallusrwydd Artiffisial” unigol (yn wahanol i Ddeddf Deallusrwydd Artiffisial arfaethedig yr UE), ond mae fframwaith sy’n tyfu o egwyddorion a chanllawiau cyfreithiol y mae’n rhaid i sefydliadau’r sector cyhoeddus eu dilyn. Dyma fanylion y dirwedd bresennol.
- Diogelu Data a GDPR
Y pryder cyfreithiol mwyaf uniongyrchol ar gyfer unrhyw system deallusrwydd artiffisial sy’n prosesu data personol yw cydymffurfiaeth â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. Mae hyn yn cynnwys egwyddorion fel cyfreithlondeb, tryloywder, atebolrwydd, a hawl unigolion i beidio â bod yn destun penderfyniadau a wneir drwy ddulliau awtomataidd yn unig sydd ag effeithiau cyfreithiol neu effeithiau sydd yr un mor arwyddocaol.
Os defnyddir offeryn deallusrwydd artiffisial i wneud penderfyniadau—fel pwy sy’n gymwys i gael budd-dal neu a oes angen cynnal arolwg ar gais cynllunio—rhaid cael goruchwyliaeth ddynol a’r cyfle i herio penderfyniadau.
- Strategaeth Rheoleiddio Deallusrwydd Artiffisial Llywodraeth y DU
Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bapur gwyn: ‘A pro-innovation approach to AI regulation’. Yn hytrach na chyflwyno cyfreithiau newydd yn syth, mae’r DU wedi dewis dull dan arweiniad y sector. Mae hyn yn golygu bod disgwyl i reoleiddwyr presennol—fel Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd—lywio’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn eu meysydd.
Mae’r egwyddorion allweddol o’r papur gwyn yn cynnwys:
- Diogelwch a gwytnwch
- Tryloywder ac eglurder priodol
- Tegwch
- Atebolrwydd a llywodraethiant
- Elfen o gystadleuaeth a gwneud iawn
Er nad ydynt yn gyfreithiol rwymol, bwriedir i’r egwyddorion hyn hysbysu’r arferion gorau a llywio’r gwaith o ddatblygu a defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffordd gyfrifol.
- Safonau Tryloywder Algorithmig
Ar gyfer y sector cyhoeddus, mae Swyddfa’r Cabinet a’r Swyddfa Digidol a Data Ganolog (CDDO) wedi cyflwyno’r Safon Cofnodi Tryloywder Algorithmig—fframwaith y gall cyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i egluro sut y defnyddir algorithmau i wneud penderfyniadau.
Mae hyn yn annog sefydliadau cyhoeddus i fod yn agored ynghylch y ffordd y mae offer deallusrwydd artiffisial yn dylanwadu ar benderfyniadau, yn enwedig lle bo canlyniadau’n effeithio ar unigolion neu gymunedau. Er bod y safon hon yn wirfoddol ar hyn o bryd, fe’i hargymhellir yn gryf a gallai gael ei ffurfioli mewn polisi yn y dyfodol.
- Moeseg a Chaffael
Dylai cyrff cyhoeddus sy’n caffael offer deallusrwydd artiffisial hefyd ystyried canllawiau moesegol, fel y rheiny gan Sefydliad Alan Turing neu Wasanaeth Digidol y Llywodraeth. Dylai contractau caffael fod yn glir ynghylch materion fel perchnogaeth o ddata, atebolrwydd, safonau perfformiad, a dulliau ar gyfer goruchwylio.
Ceir pwysau cynyddol i fabwysiadu fframweithiau “deallusrwydd artiffisial moesegol”—sy’n sicrhau bod deallusrwydd artiffisial yn gynhwysol ac yn deg ac yn parchu hawliau unigolion. Mae rhai cynghorau wedi mabwysiadu eu siarteri neu bolisïau caffael moesegol eu hunain i asesu effaith technolegau newydd.
Beth ddylai gweithwyr proffesiynol y sector cyhoeddus ei wneud nesaf?
Os ydych yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yn eich swydd, neu’n bwriadu ei ddefnyddio, dyma ambell gam ymarferol i sicrhau eich bod yn parhau i gydymffurfio a bod yn gyfrifol:
- Cynnal Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data: Yn enwedig lle bo data personol yn cael ei drin.
- Deall yr algorithm: Sicrhau eich bod chi neu rywun yn eich tîm yn gallu egluro sut mae’r system deallusrwydd artiffisial yn gweithio, o leiaf mewn egwyddor.
- Cofnodi manylion tryloywder: Defnyddio safonau tryloywder y llywodraeth i nodi systemau deallusrwydd artiffisial a’u heffeithiau.
- Sicrhau trosolwg dynol: Osgoi gwneud penderfyniadau sy’n gwbl awtomataidd oni bai bod hynny’n gwbl angenrheidiol—ac yn gyfreithlon.
- Dilyn y canllawiau diweddaraf: Monitro’r wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth ganolog, Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a chyrff proffesiynol perthnasol.
- Adolygu contractau caffael: Gweithio gyda’ch tîm cyfreithiol i sicrhau bod contractau sy’n ymwneud â deallusrwydd artiffisial yn gadarn ac yn adlewyrchu arferion gorau.
Casgliad
Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig offer pwerus iawn i’r sector cyhoeddus yn y DU i wella gwasanaethau, rhoi hwb i effeithlonrwydd, a datgelu mewnwelediadau newydd. Ond rhaid cydbwyso’r buddion hyn ag ymrwymiad cryf i dryloywder, tegwch a chyfreithlondeb. Gan fod y dirwedd reoleiddio yn parhau i ddatblygu, mae angen i arweinwyr a defnyddwyr y sector cyhoeddus fel ei gilydd aros yn wybodus a rhagweithiol.
Yn Geldards, mae ein tîm TG a Thechnoleg yn cynghori cyrff cyhoeddus yn rheolaidd ynghylch mabwysiadu deallusrwydd artiffisial, ei gaffael, a chydymffurfio â’r rheoliadau mewn modd cyfrifol. Os oes gennych gwestiynau am sut y gallai deallusrwydd artiffisial effeithio ar eich maes gwasanaeth chi—neu os oes angen help arnoch i ddeall y dirwedd gyfreithiol—mae ein harbenigwyr yma i’ch cefnogi chi.