Dyfarniadau'r Tribiwnlys Cyflogaeth ar faterion COVID-19

Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth wedi ymdrin â nifer o hawliadau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn ddiweddar. Dyma grynodeb o rai dyfarniadau diweddar.

Yn Prosser v Community Gateway Association Ltd ET/2413672/2020, ystyriodd y Tribiwnlys a oedd cyflogwr wedi gwahaniaethu yn erbyn cyflogai beichiog trwy ei hanfon adref yn ystod cyfnod cynnar y pandemig a gohirio caniatáu iddi ddychwelyd i’r gwaith nes bod mesurau cadw pellter cymdeithasol digonol wedi’u rhoi ar waith. Gwrthododd y Tribiwnlys ei hawliadau gwahaniaethu ac erledigaeth, gan nodi nad oedd y rhain yn weithredoedd o driniaeth anffafriol oherwydd ei beichiogrwydd, ond eu bod yn gamau a gymerwyd i amddiffyn y cyflogai yn unol â’r cyngor iechyd y cyhoedd oedd ar gael a rheoliadau Covid perthnasol. Bydd y penderfyniad hwn yn berthnasol i gyflogwyr sy’n ymdrin â gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gweithle ac sy’n ystyried mesurau i leihau’r risgiau i gyflogeion beichiog.

Roedd achos Ham v Esl Bbsw Ltd ET/1601260/2020 yn ymwneud â diswyddo cyflogai o’i swydd gwasanaeth glanhau pan wrthododd fynd ag offer i gartref ei reolwr a oedd yn hunanynysu gan fod ganddo symptomau Covid. Roedd Mr Ham wedi awgrymu y dylai fynd â’r offer i leoliad arall, lle y gellid ei storio’n ddiogel. Yn ei apêl fewnol yn erbyn ei ddiswyddiad, esboniodd Mr Ham y bu’n pryderu am ei iechyd ei hun ac iechyd ei deulu. Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad mai’r prif reswm am ei ddiswyddo oedd y ffaith ei fod wedi codi pryderon iechyd a diogelwch, gan olygu bod y diswyddiad yn annheg yn awtomatig.

Hefyd, rydym wedi dechrau gweld penderfyniadau cyntaf Tribiwnlysoedd Cyflogaeth mewn perthynas ag effaith y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) ar y gallu i ddiswyddo’n deg am resymau dileu swydd. Mae’n amlwg y bydd ffeithiau pob achos yn penderfynu a fydd diswyddo am resymau dileu swydd yn annheg gan nad oedd y cyflogwr wedi defnyddio’r CJRS. Yn achos Mhindurwa v Lovingangels Care Ltd ET/3311636/2020, penderfynodd y Tribiwnlys fod diswyddo am resymau dileu swydd yn annheg gan fod y cyflogwr wedi gwrthod ystyried ffyrlo fel dewis amgen i ddiswyddo. Roedd y Tribiwnlys o’r farn y byddai cyflogwr rhesymol wedi ystyried ffyrlo fel ffordd o osgoi dileu’r swydd, gan mai dyna yw diben y CJRS. Fodd bynnag, yn Handley v Tatenhill Aviation Ltd ET/2603087/2020, derbyniodd y Tribiwnlys fod angen i’r cyflogwr dorri costau er gwaethaf bodolaeth y CJRS, ac roedd am ddefnyddio’r cynllun i dalu rhai o gostau dileu’r swydd. Yn yr achos hwn, dyfarnwyd bod y diswyddiad yn deg. Mae’n ymddangos, felly, y gallai esboniad rhesymol ynglŷn â pham na ddefnyddiwyd y CJRS fod yn ddigon i sicrhau bod diswyddiad yn deg o dan yr amgylchiadau.

Mae’r achosion hyn yn enghreifftiau o’r hawliadau amrywiol sy’n dod gerbron y system Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ar hyn o bryd mewn perthynas â phenderfyniadau gan gyflogwyr sy’n gysylltiedig â Covid. Maent yn pwysleisio’r angen i gyflogwyr ystyried materion yn ofalus, a’r goblygiadau posibl cyn gweithredu mewn perthynas â chyflogeion mewn sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â Covid, yn enwedig sefyllfaoedd sy’n ymwneud ag ystyriaethau iechyd a diogelwch.

I gael rhagor o gyngor ar yr achosion hyn neu unrhyw faterion yn ymwneud â chyfraith cyflogaeth, cysylltwch â Thîm Cyflogaeth Geldards sydd ar gael i helpu bob amser.

Hoffech chi siarad am y Cipolwg hwn?

Get Insights in your inbox

Subscribe
To Top