Sector Cyhoeddus Cymru

Mae gan Geldards brofiad helaeth o gynghori Llywodraeth Cymru, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a chyrff eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru ac rydym yn cael ein hystyried yn un o brif ddarparwyr gwasanaethau cyfreithiol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae ein Tîm Sector Cyhoeddus yng Nghymru’n cynnwys cyfreithwyr ar draws yr holl ddisgyblaethau cyfreithiol allweddol, ac maent i gyd yn gyfarwydd iawn â darparu cyngor cyfreithiol yn nghyd-destun unigryw tirwedd datganoledig Cymru. Gall y tîm gynghori ar draws amrywiaeth eang o feysydd gwahanol, gan gynnwys ar bwerau a materion eraill yn ymwneud â chyfraith gyhoeddus, cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol (CPO) a phriffyrdd, caffael cyhoeddus, rheoli cymorthdaliadau, adolygiadau barnwrol a chydymffurfio â dyletswyddau statudol fel y rhai dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Rydym yn cynghori ar amrywiaeth eang o drafodion sector cyhoeddus gan gynnwys cydweithrediadau ymhlith y cyhoedd, contractau allanol, caffael, prosiectau TG, prosiectau seilwaith, prosiecau tai, prosiectau adfywio, sefydlu endidau corfforaethol newydd, strwythurau gwasanaethau a rennir a darparu gwasanaethau amgen. Mae hyd a lled y profiad sydd gan ein tîm yn golygu y gallwn ddarparu cyngor didor ar brosiectau o’r cychwyn cyntaf, drwy’r cam cynllunio, nodi’r opsiynau ac unrhyw risgiau i weithredu a chwblhau.

Rydym yn adnabyddus am ein gallu i ddarparu cyngor beirniadol sy’n sensitif yn wleidyddol i gyrff llywodraethol a’r sector cyhoeddus er mwyn diogelu eu buddiannau a buddiannau eu hetholwyr a’u trethdalywr, mewn amgylchiadau eithriadol o ddadleuol yn aml iawn. Er enghraifft, mae gennym brofiad o ganfod atebion cefnogol ac adeiladol, rydym yn cael ein hystyried yn gyfreithwyr cyflogaeth ‘o ddewis’ pan fo mater arbennig o sensitif neu heriol yn ymwneud â’r gweithle yn codi, yn enwedig os yw uwch swyddogion yn rhan o’r broses. Rydym yn llywio drwy broblemau sy’n ymddangos yn amhosib bron, fel yr her cyflog cyfartal mewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru a allai fod wedi bod yn niweidiol iawn yn ariannol ac achosi cryn ansefydlogrwydd a’r broses o foderneiddio a sicrhau cydraddoldeb mewn amodau a thelerau cyflogaeth. Rydym yn cynghori ar rôl llywodraethu effeithiol mewn diwylliant sefydliadol ac ar y broses o wneud penderfyniadau ac rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru pan fo hynny’n briodol er mwyn sicrhau bod atebion yn cyd-fynd ag Egwyddorion Bywyd Cyhoeddus ac y gellir eu hamddiffyn.

Mae gennym nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl sy’n hyderus yn arwain gohebiath, galwadau a chyfarfodydd yn y Gymraeg. Golyga hyn y gallwn hwyluso prosesau cydymffurio ein cleientiaid â’r safonau dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Yn hoffi trafod Sector Cyhoeddus Cymru?

Yr hyn y mae Cleientiaid yn ei ddweud

"Mae'r tîm yn darparu cyngor rhagweithiol ac ymatebol."

Sector Cyhoeddus, Cymru, Legal 500 2021

"O'n profiad ni, mae Geldards yn eithriadol o effeithlon a hyblyg yn ei ddull o ymdrin ag achosion. Mae'n darparu gwasaneth sy'n rhoi'r pwyslais ar gleientiaid wedi'i ategu ag arbenigedd technegol cryf."

Cyfraith Weinyddol a Chyhoeddus Cymru, Chambers & Partners

"Maen nhw wedi bod yn eithriadol o effeithiol yn ein helpu i ddatrys problemau a chynghori ar y ffordd orau ymlaen."

Cyfraith Weinyddol a Chyhoeddus Cymru, Chambers & Partners 2021

"Mae'r cwmni'n gyfeillgar, yn ddymunol ac yn ymatebol."

Llywodraeth Leol, y DU Gyfan, Chambers & Partners 2021

"Maen nhw'n fasnachol yn eu dull o ymdrin ag anghydfodau."

Llywodraeth Leol, y DU Gyfan, Chambers & Partners 2021

To Top