Wythnos Elusennau Cymru / Welsh Charities Week 2023

Trefnir Wythnos Elusennau Cymru gan CGGC a bydd yn cael ei chynnal rhwng 13-17 o Dachwedd 2023. Yn ystod yr wythnos hon, rydym yn cymeradwyo gwaith elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru.

Rydym yn byw drwy gyfnod economaidd heriol iawn ac yn aml yn ystod cyfnodau anodd, bydd ein helusennau yn chwarae rhan allweddol wrth gynnig help llaw i’r rhai mewn angen. Ond mae elusennau yn wynebu pwysau sylweddol megis galw cynyddol ar eu gwasanaethau, costau uwch, a rhoddion yn gostyngu.

Ymddiriedolwyr a gweithwyr elusennol yn aml yw ein harwyr di-glod mwyaf, ond yn Geldards, gwelwn eich gwaith caled, eich angerdd a’ch ymrwymiad.

Nid yw aros yn bositif mewn cyfnod heriol yn hawdd. Ond os yw’r 3-4 blynedd diwethaf wedi dysgu unrhyw beth i ni, gwyddwn y bydd y sector elusennol yn dygymod â’r storm ac yn profi, unwaith eto, gwerth elusennau i bawb.
Mae CGCC yn ein gwahodd ni i gyd i gymryd rhan mewn #WythnosElusennauCymru mewn unrhyw ffordd y gallwn. Boed hynny trwy wirfoddoli, cyfrannu’n ariannol neu estyn allan i’n hoff elusen neu grŵp gwirfoddol.

Gwirfoddoli
Os oes gennych rywfaint o amser sbâr ac yr hoffech wirfoddoli, gallwch chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli ar wefan volunteering-wales.net . Yn ôl CGGC, mae 26% o bobl Cymru yn gwneud o leiaf un diwrnod o wirfoddoli bob blwyddyn.

Rhoi
Mae Wythnos Elusennau Cymru yn amser perffaith i roi i elusen neu fudiad gwirfoddol. Nid oes rhaid i hyn fod yn gyfraniad ariannol. Mae CGGC yn awgrymu rhoi bag o ddillad neu nwyddau eraill i’ch siop elusen leol, neu gallech wirfoddoli rhywfaint o’ch amser. Am fwy o syniadau, edrychwch ar becyn ymgyrch WCVA.

Cydnabyddiaeth
Mae WCVA yn ein hannog i gydnabod ar y cyfryngau cymdeithasol unrhyw elusen rydych chi’n ei hedmygu a rhannu sut mae’r sefydliad wedi cael effaith bositif ar eich bywyd chi neu ar fywyd rhywun sy’n bwysig i chi. Cofiwch ddefnyddio #WythnosElusennauCymru.
Mae’r wythnos hon yn gyfle i’r trydydd sector yng Nghymru ddod at ein gilydd, ac i gydnabod cyfraniad ein 42,915 o fudiadau gwirfoddol.

 

**********************************

Welsh Charities Week is organised by WCVA and will take place from 13-17 November 2023. During this week, we take the time to recognise the work of charities, social enterprises, voluntary organisations and volunteer groups in Wales.

We are living through a period of considerable economic challenge and as so often during difficult times, charities will play a key role in helping those in need. But charities themselves face pressures: rising demand on their services, increased costs, and the risk of declining donations.

Trustees and charity workers are often our biggest unsung heroes but here at Geldards we see your hard-work, passion and commitment.
Staying positive in challenging times is not easy, we know. But if the last 3-4 years have taught us anything, it’s that the charity sector will no doubt weather the storm and prove, once again, the value of charity to all.

WCVA are inviting us all to get involved in #WelshCharitiesWeek in any way we can. Whether that’s volunteering, donating or reaching out to our favourite charity or voluntary group.

Volunteer
If you have some spare time and would like to volunteer you can search for volunteering opportunities at Volunteering Wales (volunteering-wales.net). According to WCVA, 26% of people in Wales do at least one day of volunteering per year.

Donate
Welsh Charities Week is a perfect time to give to a charity or voluntary organisation. This does not have to be a money-related donation. WCVA suggests instead donating a bag of clothes or other goods to your neighbourhood charity shop, or you could volunteer some of your time. For more ideas, please have a look at the WCVA campaign pack.

Reaching out
WCVA are encouraging us to give a shout out on social media to any charity you admire and share how the organisation has had a real effect on your life or the life of someone you care about. Remember to use #WelshCharitiesWeek.

This week is an opportune time for the Welsh charity sector to come together, and to acknowledge the contribution of our 42,915 voluntary organisations.

Like to talk about this Insight?

Get Insights in your inbox

To Top